Jessie Donaldson

YMGYRCHYDD GWRTH-GAETHWASIAETH

Ganwyd Jessie Donaldson yn Abertawe, ac roedd yn ymgyrchydd dros gael gwared ar gaethwasiaeth. Teithiodd i Cincinnati yn 1856 i redeg ‘tŷ diogel’, gan wynebu dirwyon a charchar posib am gynnig lloches a nodded i gaethweision a geisiai ffoi i Ogledd America.

CATEGORI: Gwleidyddiaeth & Gwasanaethau cyhoeddus
DYDDIADAU: 1799-1889
LLEOLIAD: Abertawe
RHANNU: