Trudy Norris-Grey
RHEOLWRAIG GYFFREDINOL, MICROSOFT, CADEIRYDD WISE (MENYWOD MEWN GWYDDONIAETH A PHEIRIANNEG)
Ganwyd Kathryn Trudy Norris-Grey yn Nhreforys, Abertawe, y seithfed o wyth plentyn. Ar ôl astudio ar gyfer gradd mewn Astudiaethau Busnes yng Ngholeg Polytechnig Cymru (sydd bellach yn rhan o Brifysgol De Cymru), datblygodd ei gyrfa’n gyflym wrth iddi symud i swyddi marchnata a swyddi rhyngwladol uwch. Daeth yn Llywydd ar Sun Microsystems yn 2005, ac yn 2008 fe’i penodwyd yn Gadeirydd WISE (Menywod mewn Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg), swydd y mae’n ei dal hyd heddiw, sy’n ymgyrchu i annog mwy o ferched a menywod i ddilyn gyrfaoedd STEM. Ymunodd â Microsoft fel Rheolwraig Gyfarwyddwraig Canol a Dwyrain Ewrop yn 2012.
CATEGORI:
Abertawe
DYDDIADAU:
Anhysbys - Presennol
LLEOLIAD:
Morriston, Abertawe
CYDNABYDDIAETH AM Y LLUN :
Trudy Norris-Grey