Tavi Murray
ATHRO RHEWLIFEG, DIRPRWY IS-GANGHELLOR CYNORTHWYOL YM MHRIFYSGOL ABERTWE
Dechreuodd Tavi Murray ei gyrfa academaidd drwy ennill gradd dosbarth cyntaf mewn Ffiseg a Chyfrifiadureg ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth. Mae’n arbenigwraig o fri rhyngwladol ar rewlifoedd, ac yn astudio i ba raddau y mae rhewlifoedd yn cyfrannu at godi lefel y môr yn fyd-eang, nawr ac yn y dyfodol. Mae ei gwaith wedi mynd â hi i’r Arctig ac i’r Antarctig ac wedi ennill iddi Fedal y Pegynau, ac mae wedi cael cyllid ar gyfer sawl prosiect gan Ymddiriedolaeth Leverhulme.
CATEGORI:
Gwyddoniaeth
DYDDIADAU:
Anhysbys - Presennol
LLEOLIAD:
Aberystwyth
CYDNABYDDIAETH AM Y LLUN :
Swansea University | Rebeckah Griffiths (USW)