Shirley Bassey

CANTORES

Ganwyd Shirley Veronica Bassey yn Stryd Bute yn Tiger Bay, a daeth i’r amlwg gyntaf yn 1957 gyda ‘The Banana Boat Song’. Flwyddyn yn ddiweddarach hi oedd yr artist cyntaf o Gymru i gyrraedd rhif un gyda’i sengl ‘As I Love You’. Yn fwyaf enwog am recordio caneuon agoriadol ffilmiau James Bond, mae wedi perfformio dros y byd i gyd i deuluoedd brenhinol a phwysigion ac mae wedi codi cannoedd o filoedd drwy ei gwaith elusennol. Yn 2000, cafodd DBE am ei gwasanaeth i’r celfyddydau perfformio.

CATEGORI : Y Celfyddydau
DYDDIADAU: 1937-present
LLEOLIAD: Tiger Bay
CYDNABYDDIAETH AM Y LLUN: Faiz Balabi / Alamy Stock Photo
RHANNU: