Meena Upadhyaya

ATHRO NODEDIG (ANRH) YM MHRIFYSGOL CAERDYDD, GENETEGWR MEDDYGOL, SYLFAENYDD WELSH ASIAN WOMEN ACHIEVEMENT AWARDS AC ETHNIC MINORITY WOMEN IN WELSH HEALTHCARE

Ganwyd yn India a symudodd i’r DU yn 19 oed fel gwraig tŷ. Astudiodd Meena Upadhyaya
Radd Meistr yng Nghaeredin ar ôl cael ei hannog i astudio gan ei gŵr, yna, cwblhaodd ddoethuriaeth mewn meddygaeth atgenhedlu. Yn ddiweddarach, fe ddatblygodd ei gyrfa fel gweddw ar ôl i’w gŵr farw’n ifanc, yn ei dridegau. Wedi’i lleoli yng Nghaerdydd am flynyddoedd lawer, mae Upadhyaya wedi treulio ei gyrfa yn canolbwyntio ar anhwylderau genetig, gan ddatblygu profion arloesol i gynorthwyo yn y diagnosis o dros 20 o glefydau genetig. Fel sylfaenydd Welsh Asian Women Achievement Awards a’r Ethnic Minority Women in Welsh Healthcare, derbyniodd OBE yn 2016 am “wasanaethau i eneteg feddygol a chymuned Asiaidd Cymru”. Etholwyd hi yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn 2018.

CATEGORI: Gwyddoniaeth
DYDDIADAU: 1954 - Presennol
LLEOLIAD: Caerdydd
CYDNABYDDIAETH AM Y LLUN : Cardiff University
RHANNU: