Mary Dillwyn

Y FENYW GYNTAF I FOD YN FFOTOGRAFFYDD YNG NGHYMRU

Roedd ffotograffiaeth yn y teulu i Mary Dillwyn ac ystyrir mai hi oedd y fenyw gyntaf i fod yn ffotograffydd yng Nghymru. Mae ei ffotograffau wedi eu cadw mewn albymau yn y Llyfrgell Genedlaethol, ac maent yn nodedig am eu bod yn rhoi cipolwg amrwd i ni ar fywyd domestig yn y 19eg ganrif ym Mhrydain. Credir mai hi gymerodd y ffotograff cyntaf y gwyddys amdano o wên, ac un o ddyn eira. Wedi iddi briodi collodd ddiddordeb mewn ffotograffiaeth.

CATEGORI: Y Celfyddydau
DYDDIADAU: 1816-1906
LLEOLIAD: Arthog
RHANNU: