Honno Press

GWASG MENYWOD CYMRU

Dechreuodd Gwag Honno mewn cegin yng Nghaerdydd pan ddaeth criw o fenywod o’r un anian (Kathryn Curtis, Anne Howells, Sheleagh Llewellyn, Ceridwen Lloyd-Morgan, Luned Meredith, Althea Osmond a Roseanne Reeves) at ei gilydd. Roeddent wedi gweld bwlch yn y farchnad o ran llyfrau a oedd yn berthnasol i fenywod yng Nghymru, yn Gymraeg ac yn Saesneg. Cyhoeddwyd eu llyfrau cyntaf yn 1987, un yn Gymraeg gan Hafina Clwyd, a’r llall yn Saesneg gan y Gymraes a fu’n nyrs yn Rhyfel y Crimea, Elizabeth ‘Betsi’ Cadwaladr.

Ers hynny, mae eu llyfrau wedi ennill Gwobr Llyfr y Flwyddyn Cyngor Celfyddydau Cymru, Gwobr Cyhoeddi Cymunedol Raymond Williams a Gwobr Pandora’s Box i Fenywod ym Myd Cyhoeddi. Maent hefyd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau cenedlaethol gan gynnwys Gwobr Nofel Drosedd y Flwyddyn Theakston’s Old Peculiar and a gwobr New Blood Dagger Cymdeithas yr Awduron Trosedd.

CATEGORI: Busnes
DYDDIADAU: Anhysbys
LLEOLIAD: Aberystwyth
RHANNU: