Hannah Mills
HWYLWRAIG GYSTADLEUOL, ENILLYDD MEDAL AUR YNG NGEMAU OLYMPAIDD 2016
Yn wyth mlwydd oed, dechreuodd Hannah Mills hwylio yng Nghanolfan Hwylio Llanisien yng Nghaerdydd, ei dinas enedigol, ar ôl cael blas ar y gamp ar wyliau teuluol yng Nghernyw. Enillodd ei medal aur gyntaf yn 2012 ym Mhencampwriaethau Byd 470, ac enillodd fedal arian yn y Gemau Olympaidd gyda Saskia Clark yr haf hwnnw hefyd. Bedair blynedd yn ddiweddarach, enillodd y ddwy eto yng Ngemau Olympaidd Rio, er gwaetha’r profiad ofnadwy o gael eu bygwth â chyllell a chael rhywun yn dwyn oddi arnynt yn y ddinas tra oeddent yn hyfforddi. Enillodd Mills wobr Hwylwraig Ryngwladol y Flwyddyn yn 2016, a chafodd MBE yn rhestr anrhydeddau’r Flwyddyn Newydd yn 2017.
CATEGORI:
Chwaraeon
DYDDIADAU:
1988 - Presennol
LLEOLIAD:
Caerdydd
CYDNABYDDIAETH AM Y LLUN :
WENN Ltd / Alamy Stock Photo