Eirwen Gwynn (Formerly St John Williams)
AWDUR, CENEDLAETHOLWRAIG
Ganwyd Eirwen Gwynn yn Lerpwl i rieni o Gymry. Roedd yn genedlaetholwraig ac yn awdur. Enillodd PhD mewn Crisialeg Pelydr-X, a bu’n dysgu ac yn darlithio am wyddoniaeth. Ysgrifennodd sawl llyfr a chyhoeddi dros 1,000 o erthyglau mewn cyhoeddiadau megis y Scientist, y New Scientist, yr Observer a’r Scientific American. Yn 2006, enillodd Eirwen Fedal Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod Genedlaethol a daeth yn aelod anrhydeddus o Orsedd y Beirdd.