Cerys Matthews
CANTORES A CHYFANSODDWRAIG, AWDUR, DARLLEDWRAIG
Yn enedigol o Gaerdydd, roedd Cerys Elizabeth Matthews yn un o aelodau gwreiddiol y band hynod lwyddiannus Catatonia. Mae’n gyfansoddwraig ac yn awdur ac mae wedi ennill gwobrau am ei gwaith fel cyflwynydd radio a theledu. Cynhyrchodd ei halbwm ei hun o alawon traddodiadol Cymru, Tir, yr albwm Cymraeg sydd wedi gwerthu orau yn y deng mlynedd diwethaf. Yn 2014 roedd yn un o gyd-sylfaenwyr gŵyl The Good Life Experience.
CATEGORI:
Y Celfyddydau
DYDDIADAU:
1969 – presennol
LLEOLIAD:
Caerdydd
CYDNABYDDIAETH AM Y LLUN :
Pako Mera / Alamy Stock Photo | Lucy-Marshall (USW)