Elizabeth ‘Betsi’ Cadwaladr
NYRS, AWDUR
Bu Elizabeth ‘Betsi’ Cadwaladr yn gweithio ochr yn ochr â Florence Nightingale yn y Crimea, ar ôl dechrau ei bywyd yn un o 16 o blant ym mhentref gwledig Llanycil ger y Bala. Bu farw ei mam pan oedd Betsi’n 5 oed. Roedd ganddi anian wrthryfelgar, a daeth hynny ag anturiaethau yn ei sgil: aeth i Lundain yn ferch ifanc er mwyn osgoi gorfod priodi, ac yna bu’n teithio’r byd yn gweithio ar longau mordeithiau lle bu’n helpu menywod i esgor ar fabanod, yn gofalu am bobl sâl, a hefyd yn perfformio mewn dramâu Shakespeare un-fenyw. Roedd ganddi ddiddordeb brwd mewn nyrsio gydol ei hoes, a bu’n ymladd yn erbyn biwrocratiaeth yn y Crimea er mwyn i filwyr wedi’u hanafu gael triniaeth briodol. Ysgrifennodd hunangofiant wedi iddi ddychwelyd i Brydain, ychydig cyn iddi farw.