Augusta Hall, Lady Llanover
NODDWRAIG I’R CELFYDDYDAU YNG NGHYMRU, HI OEDD YN GYFRIFOL AM DDYFEISIO’R WISG GYMREIG
Yn y Fenni y ganwyd yr aeres Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, ac roedd yn fwyaf adnabyddus fel noddwraig i’r celfyddydau yng Nghymru. Helpodd i sefydlu Y Gymraes, y cyfnodolyn cyntaf yn Gymraeg i fenywod, ariannodd waith i lunio geiriadur Cymraeg ac enillodd y wobr gyntaf yn Eisteddfod 1834 am ei thraethawd The Advantages resulting from the Preservation of the Welsh language and National Costume of Wales.
CATEGORI:
Y Celfyddydau
DYDDIADAU:
1802-1896
LLEOLIAD:
Abergavenny
CYDNABYDDIAETH AM Y LLUN:
© Gwent Archives | Jesse Davies (USW)