Anne Ellis OBE

CYN GAPTEN HOCI PRYDAIN FAWR A CHYMRU, CYN HYFFORDDWRAIG PRYDAIN FAWR A CHYMRU

Yn enedigol o Abertawe, chwaraeodd Anne Ellis 138 o weithiau’n olynol i Gymru a 14 o weithiau i Brydain rhwng 1963 ac 1980, a tan 2017 hi oedd wedi ennill y nifer fwyaf o gapiau’n chwarae hoci i Gymru. Bu’n hyfforddi timau Prydain Fawr a Chymru ar ôl ymddeol o’r gamp, ac am 20 mlynedd hi oedd Llywydd Hoci Cymru. Mae’n ymroddedig i’r gamp ar bob lefel hyd heddiw, hi yw Llywydd Cyngor Gemau’r Gymanwlad Cymru, ac mae hyd yn oed yn rhoi help llaw yng nghaffi Clwb Hoci Dinas Abertawe ar benwythnosau.

CATEGORI: Chwaraeon
DYDDIADAU: Anhysbys - Presennol
LLEOLIAD: Abertawe
CYDNABYDDIAETH AM Y LLUN : LensMonkey / Sport Wales
RHANNU: