Anna Bastek
SYLFAENYDD A PHRIF WEITHREDWRAIG Y CWMNI CYFIEITHU RHYNGWLADOL WOLFESTONE
Yn ferch i weithiwr llongau yng Ngwlad Pwyl, symudodd Anna Bastek i Gymru yn 2004 i orffen gradd Meistr mewn peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, lle’r ymunodd â rhaglen Go Wales i raddedigion. Bu hynny’n ysgogiad iddi i sefydlu ei busnes ei hun, ac mae ei chwmni cyfieithu yn Abertawe bellach yn chweched ar rhestr y busnesau sy’n tyfu gyflymaf yng Nghymru, yn cyflogi 30 o staff ac 8,000 o gyfieithwyr ledled y byd.
CATEGORI :
Busnes
DYDDIADAU:
1980 - Presennol
LLEOLIAD:
Abertawe
CYDNABYDDIAETH AM Y LLUN :
Wolfestone