Ann Pettitt

YMGYRCHYDD HEDDWCH

A hithau’n fam ifanc yn magu plant bach mewn tyddyn yn Sir Gaerfyrddin, cychwynnodd Ann Pettitt fudiad a fyddai’n gweddnewid hanes modern. Hi oedd un o sylfaenwyr Gwersyll Heddwch Menywod Comin Greenham. Gorymdeithiodd 36 o fenywod 120 o filltiroedd am 10 diwrnod o’u cartrefi i’r gwersyll awyr milwrol yn Berkshire i brotestio yn erbyn cynlluniau i gadw taflegrau Cruise yno. Ysgrifennodd Ann lyfr am ei chyfnod yn Greenham, ac mae hefyd wedi ysgrifennu am ffeministiaeth, byw’n gynaliadwy a gwleidyddiaeth Cymru i bapurau newydd cenedlaethol, cyhoeddiadau ffeministaidd, a chylchgronau eraill.

CATEGORI : Gwleidyddiaeth & Gwasanaethau cyhoeddus
DYDDIADAU: TBC - Presennol
LLEOLIAD: Camarthenshire
RHANNU: