Angharad Tomos

YMGYRCHYDD AC AWDUR CYMRAEG

Mae Angharad Tomos yn ymgyrchydd iaith ddigyfaddawd, a’i gwreiddiau yn ddwfn yn Nyffryn Nantlle, yn un o bum chwaer,ac yn wyres i’r Sosialydd, David Thomas.
Roedd yn gadeirydd Cymdeithas yr Iaith rhwng 1982-84 ac fe’i carcharwyd fwy nag unwaith am ymgyrchoedd iaith. Mae’n llenor disglair ac wedi ysgrifennu a darlunio nifer helaeth o lyfrau i blant gan gynnwys ei chyfres Rwdlan, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1983. Mae wedi ennill coron Eisteddfod yr Urdd ddwywaith, Medal Ryddiaith yr Eisteddfod Genedlaethol ddwywaith, a Gwobr Tir na n-Og ddwywaith. Enillodd Wobr Mary Vaughan Jones yn 2009 am ei chyfraniad tuag at lenyddiaeth plant yng Nghymru. Ysgrifennodd hanner dwsin o nofelau i oedolion, a llwyfannwyd drama o’i heiddo gan y Theatr Genedlaethol yn 2012. Yn ddiweddar, mae wedi sgwennu tair nofel i bobl ifanc yn seiliedig ar ddigwyddiadau hanesyddol. Mae’n byw ym Mhenygroes gyda’i gŵr Ben a’i mab 15 oed, Hedydd.

CATEGORI : Gwleidyddiaeth & Gwasanaethau Cyhoeddus
DYDDIADAU: Anhysbys - Presennol
LLEOLIAD: Mhenygroes
CYDNABYDDIAETH AM Y LLUN : Angharad Tomos
RHANNU: